top of page

Bu newidiadau mawr mewn dulliau ffermio yn ystod y can mlynedd diwethaf. Gall ffermwyr hyˆn gofio godro a chneifio â llaw, cynaeafu gyda pheiriant dyrnu, adeiladu tas wair, defnyddio ceffylau i droi’r tir, a phrynu’r tractor cyntaf. Mewn cyferbyniad, mae dulliau ffermio heddiw wedi mecaneiddio’n arw ac felly mae angen llai o bobl i redeg y ffermydd. Ond er bod y tractorau a’r peiriannau cynaeafu yn fwy eu maint ac yn fwy costus a chymhleth, mae’r berthynas ddofn sydd rhwng y ffermwyr a’r dirwedd lle maen nhw’n byw ac yn gweithio yn ddigyfnewid.


Yn y llyfr hwn byddwn yn dathlu’r etifeddiaeth gyfoethog sy’n perthyn i ffermio ym Mryniau Clwyd. Adroddir yr hanes drwy ffotograffau fydd yn dwyn atgofion, a thrwy hanesion personol rhai o’r ffermwyr lleol. Efallai eich bod o gefndir ffermio, neu’n gwerthfawrogi’r ardaloedd gwledig; pa un bynnag, rydych yn sicr o fwynau pori yn y llyfr hardd hwn.

100 Mlynedd o Ffermio ym Mryniau Clwyd a'r Cyffiniau

SKU: 0004
£9.99Price
  • Awst 2011

bottom of page